CEFNDIR

Sefydlwyd mo design yn Amsterdam, yr Iseldiroedd, yn 1997 ac ers hynny mae wedi enill clod mawr am ei waith. Yn 2008 mae'r fenter yn cael ei hail-lansio dan yr enw mo, ac o hyn ymlaen bydd yn cynnig gwasanaeth cyhoeddi-trwy-gytundeb cynhwysfawr. Bellach, mae'r sylfaenwyr gwreiddiol, Rebecca Ingleby a Ray Edgar, yn arwain tîm o ysgrifenwyr, golygyddion, cyfieithwyr a dylunwyr blaengar a ddewiswyd oherwydd eu hymroddiad i gyhoeddi o safon yn y sector diwylliannol yng Nghymru.

Out Now OutNow Out Now

 

close

newsnewNews

AWST 2007
Enillodd ail nofel Tony Bianchi, Pryfeta, Wobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

MAWRTH 2007
Cyrhaeddodd nofel gyntaf Tony Bianchi, Esgyrn Bach, restr hir Llyfr y Flwyddyn.

GORFFENNAF 2007
Derbyniodd Ray Edgar wobr dynnu llun o wrthrych penodol yn Photo Marathon 2007.

TACHWEDD 2006
Enillodd Cromlechi Cymru (a ddyluniwyd gan mo design i Lyfrau Amgueddfa Cymru) y Wobr i Lyfr yn seremoni Gwobrau Archeolegol Prydain.

MEHEFIN 2006
Cafodd mo design glod arbennig yng nghategori Dylunio Cyhoeddiadau Corfforaethol Gwobrau Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer Y Ffrynt Cartref/Homefront a Glo (cylchgronau a ddyluniwyd gan mo design i Amgueddfa Cymru).

close

| Cymraeg | English