'The magazine has a quality feel reminiscent of many of the better journals that come out of the American University Presses. It has a very slick, cool front cover, and the inside is dotted with loads of colour photography. The typesetting and design of the feature articles is subtle yet as stylishly functional as a modern kitchen, with some good profiles of the featured writers acting as mastheads for the main piece of writing.'
(ORBIS, SPRING 2006)

ENGHRAIFFT O'N GWAITH:
NEW WELSH REVIEW

Yn 2005, cydweithiodd Rebecca Ingleby ac Francesca Rhydderch i ail-ddylunio ac ail-lansio’r New Welsh Review, prif gylchgrawn llenyddol Cymru yn Saesneg. Sefydlwyd y teitl hwn yn 1988, ac roedd angen edrych o’r newydd ar ei gynnwys a’i ddiwyg, er mwyn ei wneud yn fwy apelgar. Roedd rhaid cadw llygad ar y geiniog hefyd. Aed ati gydag arddeliad. Y mae’r cynnwys bellach yn llawer mwy cynnil, gyda phob rhifyn yn canolbwyntio ar un thema benodol. Bu’r ail-ddylunio'r un mor feiddgar, gan leihau maint y cylchgrawn ac yn defnyddio ffontiau newydd. Cyflwynwyd elfennau newydd hefyd ‒ ysgrifau ffotograffig, colofn ‘Writer's Writer’ a rhagolygon, er enghraifft ‒ er mwyn dod â dyheadau golygyddol a gweledol y cylchgrawn at ei gilydd i greu undod cryno, hardd.

cliciwch y gornel er mwyn troi’r dudalen
| Cymraeg | English