DYLUNIO

Mae gan mo bortffolio dylunio helaeth iawn, a hynny’n tystio i ddyfnder ein profiad yn y maes ac ystod eang ein gwaith, sy'n amrywio o ddeunydd marchnata, ymgyrchoedd hysbysebu a chyhoeddiadau corfforaethol megis adroddiadau blynyddol, i gomisiynau ail-frandio i amrywiaeth mawr o gleientiaid. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau o bwys ym myd diwylliant a threftadaeth, megis Cerddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd (dylunio a datblygu hunaniaeth gorfforaethol newydd hynod lwyddiannus) ac Amgueddfa Cymru (dylunio'r llyfr Cromlechi Cymru, gan ennill gwobr am y gwaith). Mae gennym gefndir mewn dylunio cylchgronau - yn enwedig datblygu teitlau o’r cysyniad cyntaf hyd at eu dylunio a’u cyhoeddi - a sawl blwyddyn o brofiad o gyhoeddi-trwy-gytundeb yn Llundain, Amsterdam a Chymru.

'Diwyg a lluniau hardd’, ‘patrwm o gyhoeddi poblogaidd’ – dyna ddywedodd y beirniaid ynglŷn â Cromlechi Cymru, a ddyluniwyd gan mo ac a enillodd y Wobr i Lyfr yn y British Archaeological Awards, 2006.

| Cymraeg | English