Mae adran olygyddol mo yn cynnig y gwasanaethau canlynol, naill ai ar wahân neu fel rhan o becyn: cynnwys golygyddol, creu proflenni, golygu creadigol, golygu testunol, prawf ddarllen a rheoli print. Gall ein hawduron greu cynnwys testunol rhagorol i gyhoeddwyr llyfrau, cylchgronau, papurau newydd a busnesau. Mae gan ein golygyddion brofiad helaeth o gomisiynu a golygu deunydd ac o reoli tîm golygyddol trwy gydol y broses gynhyrchu. Cynigir pob un o’r gwasanaethau hyn yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar gyfer cyhoeddi ar wahân neu’n ddwyieithog. Gellir cyfieithu deunydd a ddarperir gan y cleient o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Croesawn gomisiynau i weithio ar gyhoeddiadau dwyieithog.