Mae mo yn tynnu at ei gilydd ddoniau awduron arobryn, golygyddion, dylunwyr a ffotograffwyr, er mwyn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr ym meysydd golygu, dylunio a chynhyrchu. Mae’n cyfuno disgleirdeb gweledol gyda manylder golygyddol a safonau cynhyrchu o’r radd flaenaf. Mae mo yn cynnig gwasanaeth cyhoeddi cyflawn yn y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Out Now
Gweithredu dros Dwristiaeth

k

Dylunio a chynhyrchu cylchlythyr i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

New Welsh Review
nwr

Rhifyn 82, Hydref 2008


close
News
I Bydd mo yn cael ei lansio yng Nghlwb y Cameo, Caerdydd, ar 25 Medi. Bydd hyn yn gyfle da i’n cyflwyno ein hunain i’n cleientiaid ac i fwynhau gwydraid o win ac adloniant cerddorol gan ein gwestai arbennig, Huwmm. Cysylltwch â ni os hoffech ddod. Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!.

I Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar Coal House Diary, llyfr sgleiniog a gyhoeddir i gyd-fynd â chyfres y BBC, a Twrw Jarman, llyfr hunangofiannol am fywyd a cherddoriaeth Geraint Jarman. Cyhoeddir y ddwy gyfrol gan Wasg Gomer.

I Yn yr hydref byddwn yn dylunio ac yn cyhoeddi llyfr newydd am Eglwys Sant Teilo yn Sain Ffagan ar gyfer Llyfrau Amgueddfa Cymru, ynghyd â rhifyn newydd o gylchgrawn Glo i Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, a fydd yn adrodd hanes streic 1984/5 o safbwynt y sawl a gymrodd ran.

I Bydd Ray Edgar yn arddangos ei gyfres ffotograffig, Apparition, yn Tactile Bosch, Caerdydd, rhwng 7 a 17 Tachwedd.

I Bydd mo yn lansio’i wasanaeth cyhoeddi dwyieithog cynhwysfawr ym mis Medi 2008. Rydym ar hyn o bryd yn rhoi at ei gilydd dîm cadarn o ysgrifenwyr, cyfieithwyr, golygyddion, prawf ddarllenwyr, dylunwyr a ffotograffwyr. Bydd manylion pellach yn ymddangos yn fuan ar y wefan hon. (Dyma’r tîm.) Hoffem ddarllen eich sylwadau. Arwyddwch ein llyfr ymwelwyr, os gwelwch yn dda.

I Cyrhaeddodd un o’r tîm, Tony Bianchi, restr fer Llyfr y Flwyddyn yn gynharach eleni ar gyfer ei ail nofel, Pryfeta
(Y Lolfa).

close

| Cymraeg | English