Rebecca Ingleby Ray EdgarTony BianchiFransesca RhydderchBethan MairCathryn Dafyddmaria ArthurCathryn Scott

CWRDD Â'R TÎM

Mae Rebecca Ingleby (Pennaeth) wedi gweithio fel dylunydd a chyfarwyddydd celf ar gylchgronau blaenllaw i ddefnyddwyr megis Esquire a Cosmopolitan. Yn fwy diweddar, mae wedi arbenigo ar gyhoeddi-trwy-gytundeb, gan gydweithio’n agos â chleientiaid er mwyn cynhyrchu cylchgronau megis Panda (a gynhyrchwyd i’r World Wildlife Fund), sy’n gwerthu 450,000, a chyfres o gylchgronau coffaol i Amgueddfa Cymru, a gafodd glod arbennig yng ngwobrau Dylunio Dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2006. Mae wedi gweithio ar amrywiaeth eang o gyhoeddiadau a phrosiectau a anelwyd at grwpiau penodol a hefyd at gynulleidfaoedd mwy cyffredinol.

Gweithiodd Ray Edgar mewn nifer o feysydd creadigol cyn iddo sefydlu mo design ar y cyd â Rebecca Ingleby yn 1997. Trwy fod yn Gyfarwyddwr Celf mo design, daeth i gysylltiad â llawer o ffotograffwyr o fri a ysbrydolodd ei waith creadigol ei hun. Arddangoswyd ei ffotograffau mewn amryw o orielau, a chyhoeddwyd ei waith mewn nifer fawr o gylchgronau a llyfrau. Oherwydd ei brofiad helaeth o reoli print a threfnu celfwaith, y mae Ray yn aelod hanfodol o dîm creadigol mo. Mae ei waith dylunio gwefannau yn cynnwys llunio a chynnal mopublications.com.

Mae Francesca Rhydderch yn awdur, golygydd a rheolydd cynhyrchu. Mae ganddi dros ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Bu’n dal swyddi blaenllaw gyda’r cylchgronau diwylliannol, Planet: The Welsh Internationalist a’r New Welsh Review, a chyhoeddwr mwyaf Cymru, Gwasg Gomer. Mae ei phrofiad yn cwmpasu pob agwedd ar gynhyrchu llyfrau a chylchgronau, gan gynnwys comisiynu, ysgrifennu, golygu testunol, prawf ddarllen a rheoli print a chynhyrchu. Mae hi’n aelod llawn o’r Academi Gymreig.

Mae Tony Bianchi yn awdur, cyfieithydd ac ymgynghorydd ym maes y celfyddydau. Tan 2002, bu’n bennaeth Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Ers hynny, mae’i waith wedi cynnwys ymchwil bolisi i nifer o sefydliadau cenedlaethol, golygu gwefannau a chyfieithu. Cyhoeddodd ddwy nofel: Esgyrn Bach (a gyrhaeddodd restr hir Llyfr y Flwyddyn 2007) a Pryfeta (enillydd Gwobr Daniel Owen 2007). Mae’n Gymrawd Yr Academi Gymreig ac yn Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.

Mae gan Mari Arthur ddeng mlynedd o brofiad o farchnata uniongyrchol. Ymhlith ei chymwysterau, mae Advanced Certificate y Chartered Institute of Marketing ac mae’n arbenigo mewn ymchwil farchnad, dadansoddi data a chynllunio strategol. Bu’n gyfrifol am ddatblygu gwefannau mawr (o ran cynnwys a gwaith technegol a dylunio) a chynhyrchu deunydd hyrwyddo printiedig. Y byd academaidd a thechnoleg fu prif feysydd ei gwaith marchnata yn ystod y saith mlynedd diwethaf, a hynny’n aml iawn mewn cyd-destun rhyngwladol lle bu gofyn iddi deithio’n helaeth er mwyn hyrwyddo gweithgarwch yng Nghymru a’r farchnad Gymreig.

Mae Catrin Dafydd yn awdur ar ei liwt ei hunan. Cyrhaeddodd ei nofel gyntaf, Pili Pala, restr hir Llyfr y Flwyddyn a chyhoeddodd ei nofel Saesneg gyntaf, Random Deaths and Custard yn 2007. Hi yw Golygydd y cylchgrawn diwylliannol blaengar Tu Chwith; mae hi hefyd yn sgriptio i Pobol y Cwm.

Mae Bethan Mair yn awdur, golygydd, cyfieithydd a rheolydd cynhyrchu. Cyn mynd ar ei liwt ei hun, bu’n Brif Olygydd Gwasg Gomer, gwasg fwyaf Cymru, am ddeng mlynedd. Yno, roedd yn gyfrifol am lyfrau Cymraeg i oedolion yn bennaf, a llwyddodd ei chyhoeddiadau i ennill gwobrau Llyfr y Flwyddyn a Gwobrau’r Diwydiant Cyhoeddi yn fynych. Mae’n ysgrifennu colofnau rheolaidd yn y Western Mail a Seren Cymru. Hi yw Cyfarwyddwr Cyhoeddi cylchgrawn Barn ac mae hefyd yn gweinyddu Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

Mae Meg Elis yn awdur a chyfieithydd llawn-amser. Cyhoeddodd nofelau, cyfrolau o straeon byrion a barddoniaeth; enillodd ei nofel, Cyn Daw’r Gaeaf, Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1985. Cafodd radd anrhydedd yn y Gymraeg o Brifysgol Cymru, Bangor; mae’n aelod o’r Institute of Translating and Interpreting, yn Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, yn aelod o Fwrdd Arholi Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac yn aelod o banel cyfieithwyr llysoedd Cylchdaith Cymru.

Mae Sarah Fish yn olygydd llawrydd a phrawf ddarllenydd. Ymhlith ei chleientiaid y mae Sefydliad Voltaire Prifysgol Rhydychen, Gwasg Prifysgol Cymru, Taylor and Francis a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae’n Aelod Hŷn o’r Society for Editors and Proofreaders (SfEP) ac yn brawf ddarllenydd Achrededig yr SfEP.

Gweithiodd Ifan Bates fel dylunydd i asiantaethau yn Birmingham, Rotterdam a Llundain, ar ôl ennill gradd BA (Anrhydedd) ddosbarth cyntaf mewn Dylunio Graffig. Bu hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd dylunio i gwmnïau moduron yn y Deyrnas Gyfunol a Gwlad Belg, a hefyd ym maes ôl-gynhyrchu. Yn ogystal â’i waith dylunio, mae Ifan yn gwneud darluniadau a gludwaith.
| Cymraeg | English