FFOTOGRAFFIAETH

Mae adran ffotograffiaeth mo yn arbenigo mewn darparu delweddau pwrpasol ar gyfer cyhoeddiadau unigol. Hanfodol bwysig i lwyddiant unrhyw gyhoeddiad darluniadol yw dewis delweddau addas a’u cydweddu gyda’r testun a’r gwaith dylunio. Oherwydd ein profiad o gomisiynu a threfnu celfwaith gallwn sicrhau bod elfennau gweledol ein cyhoeddiadau o’r un safon â’r elfennau testunol a dylunio. Cynyddu mae’r portffolio o hyd, trwy dderbyn mwy a mwy o gomisiynau, ac mae bellach yn dangos cydbwysedd iach rhwng gwaith celfyddydol a phrosiectau mwy masnachol. Mae ein ffotograffau wedi cael eu cynnwys mewn arddangosfeydd, llyfrau, cylchgronau, taflenni a gwefannau (gweler, er enghraifft, Cyfoeth, Celf a Chydwybod, a gyhoeddwyd gan Lyfrau Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’i ddylunio gan mo).

| Cymraeg | English