GWASANAETHAU
Mae cwmni mo yn ymfalchïo yn ei agwedd broffesiynol tuag at gyhoeddi, wedi’i seilio ar ansawdd y cynnyrch, ac yn y modd creadigol y mae’n ymwneud â gwaith ei gleientiaid. Gweithiwn mewn ffordd organig: mae ein dylunwyr yn llythrennog iawn ac mae gan ein hawduron a’n golygyddion lygad graff am yr hyn sy’n llwyddo’n weledol. O ganlyniad, mae cyhoeddiadau mo yn ymddangos yn gyflawn, yn orffenedig. Rhoddwn yr un gofal i gomisiynau unigol am luniau, celfwaith a golygu testunol ag a roddwn i brosiectau mawr. Mae gennym brofiad helaeth o reoli print ac rydym yn arbenigo mewn cynhyrchu cyhoeddiadau dwyieithog o safon uchel: er enghraifft, defnyddiwn gyfieithwyr sydd yn aelodau cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn unig, a phrawfddarllenwyr sydd wedi'u hachredu gan y Society for Editors and Proofreaders. Yn ogystal â’n creadigrwydd, cynigiwn hefyd alluoedd ym maes marchnata, gyda phwyslais masnachol. Trafodwn bob prosiect gyda golwg strategol ar adnabod y farchnad a’i thargedu’n effeithiol, a gallwn newid ein harddull a’n neges yn unol â natur y gynulleidfa dan sylw. Profwyd ein llwyddiant yn hyn o beth droeon mewn sawl maes, gan gynnwys y celfyddydau, treftadaeth a thechnoleg.